Fe wnaeth ei sylwadau mewn anerchiad yng nghynhadledd Technoleg a鈥檙 Gymraeg a gynhelir ym Mhrifysgol 澳门最快开奖直播 heddiw (dydd Gwener 24ain o Chwefror, 2023.) Agorwyd y gynhadledd gan y Gweinidog, gyda'r diwrnod yn darparu cyfle i unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, yn arbennig y Gymraeg, i ddysgu mwy am yr adnoddau technolegau iaith diweddaraf.
Anogodd y Gweinidog siaradwyr Cymraeg ynghyd 芒 busnesau yng Nghymru i 鈥渨neud y mwyaf o鈥檙 trysorau鈥 sydd eisoes ar gael.
Cynhadledd Technoleg a鈥檙 Gymraeg
Ffocws y bumed gan yr Uned Technolegau Iaith yw defnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol. Y nod yw dod 芒鈥檙 byd academaidd, byd busnes a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd gydag arddangosiad o feddalwedd ac offer technoleg iaith gan gwmn茂au bach masnachol o Gymru. Darperir cyfle hefyd i brofi adnoddau arloesol diweddaraf Prifysgol 澳门最快开奖直播.
Y Trawsgrifiwr
Un o鈥檙 adnoddau hyn yw鈥檙 Trawsgrifiwr, sef rhaglen feddalwedd wedi鈥檌 ddatblygu gan yr Uned dan nawdd Llywodraeth Cymru, sy鈥檔 trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun. Wrth ystyried dylanwad ehangach yr adnodd diweddaraf hwn i gasgliad yr Uned Technolegau Iaith, dywedodd Jeremy Miles AS:
鈥淕yda鈥檔 nawdd ni, mae Prifysgol 澳门最快开奖直播 wedi datblygu trawsgrifiwr Cymraeg sy鈥檔 gwrando ar bobl yn siarad Cymraeg ac yn teipio beth maen nhw鈥檔 ddweud. Mae鈥檔 gallu creu isdeitlau awtomatig i fideos. Bydd hyn yn creu ffordd o wybod beth sydd mewn rhaglenni archif a fideos eraill.鈥
鈥淕obeithio y bydd o ddefnydd mawr i ddarlledwyr.鈥
Bydd y gynhadledd hefyd yn gweld y cysylltiad gyda chyflwyniad gan Einion Gruffydd o Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar eu project torfoli cyfredol i drawsgrifio archif ffilm a theledu Cymru.
Lleisiau synthetig dwyieithog
Mewn datblygiad cyffrous arall, bydd yr Uned Technolegau Iaith yn cyhoeddodd eu bod ar fin rhyddhau lleisiau synthetig dwyieithog, gan ehangu鈥檙 ddarpariaeth o leisiau Cymraeg. Bydd rhain yn cael eu gosod mewn adnoddau fel Macsen, sef meddalwedd cynorthwyydd personol Cymraeg tebyg i Alexa neu鈥檙 Google Assistant.
Wrth drafod rhai o fanteision y datblygiad, dywedodd y Gweinidog:
鈥淩wy鈥檔 hoff o dechnoleg ond nid technoleg er ei mwyn ei hun...鈥 meddai, 鈥渢echnoleg sy鈥檔 mynd i helpu siaradwyr Cymraeg mewn Cymru sydd yn ddwyieithog.鈥
鈥淏ydd hyn yn golygu er enghraifft bod person dall sy鈥檔 gwrando ar destun Cymraeg yn dal i glywed llais yr un 鈥榩erson鈥 fel petai, pan maen nhw鈥檔 darllen erthygl Saesneg.鈥
Yn dilyn sylwadau Jeremy Miles AS, meddai鈥檙 Athro Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith:
鈥淩ydym yn falch iawn o gefnogaeth y Gweinidog i鈥檔 gwaith. Erbyn hyn mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru i dechnoleg Gymraeg yn dwyn ffrwyth amlwg, ac mae cwmn茂au masnachol yn gallu cynnwys ein hadnoddau yn eu cynnyrch, er budd i economi Cymru ac i ddefnyddwyr y Gymraeg.鈥
O鈥檙 tu hwnt i Gymru,听bydd yr Athro William Lamb o Brifysgol Caeredin听yn cyflwyno ar dechnolegau iaith Gaeleg yr Alban a鈥檜 partneriaeth ddiweddar gyda Phrifysgol 澳门最快开奖直播.
Hefyd yn siarad bydd Dr Rodolfo Piskorski o Brifysgol De Cymru a Fernando Pabst Silva o Brifysgol Metropolitan Caerdydd sef datblygwyr Gairglo, y fersiwn Gymraeg o鈥檙 g锚m eiriol boblogaidd Wordle.
听