Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024

Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024

Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles yw y bydd y brifysgol yn: creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles; ymrwymo i gefnogi ein staff a'n myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio鈥檔 gadarn ar atal a lleihau afiechyd ac ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang yn ehangach.

Strategaeth Iechyd a Lles 2020-2024听

a diagram of the Health and Wellbeing Strategy

1. Amgylcheddau cadarnhaol

  • Adeiladu, gwella a chynnal amgylcheddau gweithio a dysgu cadarnhaol a chefnogol ar draws Prifysgol 澳门最快开奖直播. Byddwn yn:
    • Darparu arweinyddiaeth glir mewn perthynas ag iechyd a lles a dulliau cefnogi sy'n meithrin diwylliant agored, gan leihau'r stigma sy'n gysylltiedig 芒 chodi materion iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
    • Creu a sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr lles i hyrwyddo lles ar draws y Colegau a鈥檙 Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol 澳门最快开奖直播. Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau Myfyrwyr, i ddysgu o'u rhagoriaeth ac adeiladu ymhellach ar y ddarpariaeth i鈥檙 gymuned myfyrwyr (e.e. myfyrwyr sy鈥檔 gwirfoddoli Connect@澳门最快开奖直播).
    • Creu trefn lywodraethu mewn perthynas 芒鈥檔 strategaeth iechyd a lles i alluogi datblygiad iechyd a lles ar draws Prifysgol 澳门最快开奖直播..
    • Defnyddio canlyniadau arolwg staff 2020 i ddatblygu strategaeth iechyd a lles staff, sy鈥檔 cyd-fynd 芒'r strategaeth iechyd meddwl a lles dan arweiniad myfyrwyr 2020-2022, i alluogi dull prifysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles erbyn 2024.

2. Hyrwyddo ac ymgysylltu

  • Creu dealltwriaeth o iechyd a lles ar draws Prifysgol 澳门最快开奖直播, ac ymgysylltu 芒鈥檙 materion hynny; Byddwn yn:
    • Cael cyd-ddealltwriaeth o iechyd a lles
    • Codi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth gyfredol
    • Datblygu amrywiaeth o fentrau (e.e. digwyddiadau, ymgyrchoedd) i hyrwyddo gweithgareddau ac ymddygiad lles
    • Datblygu cynllun cyfathrebu yn amlinellu sut y byddwn yn hyrwyddo'r gwaith a'r gweithgareddau iechyd a lles sy'n cael eu gwneud. Bydd hyn hefyd yn cynnwys y sianeli byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd y gwahanol gynulleidfaoedd targed (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-bost, deunydd printiedig) a bydd yn adlewyrchu cyfathrebu mewnol ac allanol
    • Ei gwneud hi'n hawdd i staff a myfyrwyr gael mynediad i鈥檙 ddarpariaeth ac ymgysylltu trwy ddatblygu a chefnogi polisi, yn ogystal 芒 chyfeiriadau clir at adnoddau, ynghyd 芒 mynediad syml (e.e. cael un storfa ar-lein)

3. Iechyd ataliol a gweithredol

  • Galluogi pob unigolyn i wireddu ei botensial, ymdopi 芒 phwysau arferol bywyd, gweithio'n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus a gallu cyfrannu at eu cymuned (Sefydliad Iechyd y Byd). Byddwn yn:
    • Darparu cefnogaeth iechyd a lles ragorol i staff a myfyrwyr trwy gynnig amrywiaeth o adnoddau ac arbenigedd sy'n canolbwyntio ar ddarparu addysg sy鈥檔 arwain y sector, atal, ymyriad cynnar a lle bo angen, cyfeirio at asiantaethau allanol.
    • Darparu ymyriadau a mentrau gan ganolbwyntio ar bum prif thema, lles meddyliol ac emosiynol, gweithgarwch corfforol, materion iechyd cyfoes, (e.e. bwydydd iach a chynaliadwy, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau), ac amgylcheddau cynaliadwy.
    • Datblygu hyfforddiant iechyd a lles ar gyfer rheolwyr llinell i alluogi arweinyddiaeth a thrafodaeth dosturiol gyda staff ar iechyd a lles, tra鈥檔 cadw cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a pherchnogaeth yr unigolyn.
    • Grymuso staff a myfyrwyr i gymryd camau annibynnol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain

4. Ymchwil a Pholisi Poblogaeth

  • Arwain a chyfrannu at ymchwil a pholisi iechyd a lles lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwn ynl:
    • Tynnu sylw at y gwaith hwn a鈥檌 ddathlu. Hefyd, bydd projectau ymchwil perthnasol yn y brifysgol yn darparu dulliau i dreialu a gwerthuso cynlluniau iechyd a lles. Un enghraifft o hyn yw CALIN (http://www.calin.wales/cy/), project Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a fydd yn darparu ymchwil a datblygu mewn perthynas ag iechyd a lles ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon. Mae projectau o'r fath yn ychwanegu gallu fel y gellir gwneud ymchwil a'i blethu i strategaeth y brifysgol.

Bydd set o fetrigau perfformiad allweddol yn cael eu datblygu gyda chytundeb Pwyllgor Gweithredu鈥檙 Brifysgol, y Cyngor, Undebau Staff ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd cydlynu gweithgareddau iechyd a lles yn cael ei wneud gan swyddi presennol yn y pedwar maes allweddol, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Myfyrwyr, Colegau, ac Iechyd a Diogelwch. Bydd gweithgareddau'n cael eu dwyn ynghyd o dan gylch gorchwyl y Gr诺p Prifysgol Iach. Lle bo angen, byddwn yn cyfethol unigolion o strategaethau sefydliadol allweddol (e.e. cynaliadwyedd) i ddenu鈥檙 arbenigedd sydd ei angen a sicrhau bod strategaethau鈥檔 cael eu halinio ar draws y brifysgol. Ceir goruchwyliaeth sefydliadol ehangach o'n Strategaeth Iechyd a Lles trwy adroddiad blynyddol a gynhyrchir gan y Dirprwy Is-ganghellor/Deon Coleg Gwyddorau Dynol i Bwyllgor Gweithredu鈥檙 brifysgol a thrwy strwythurau pwyllgorau presennol ar gyfer monitro penodol a darparu rhaglenni gwaith strategol.

  • Dangosyddion Perfformiad Allweddol lefel uchel:
    1. Ymwybyddiaeth staff a鈥檜 parodrwydd i siarad yn agored am iechyd a lles
    2. Tystiolaeth o staff a myfyrwyr yn gweithredu i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio鈥檔 gadarn ar atal a lleihau afiechyd
    3. Dadansoddi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach
  • Clystyrau o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer nodau strategol:
    1. Amgylcheddau cadarnhaol
    2. Hyrwyddo ac ymgysylltu
    3. Iechyd ataliol a gweithredol
  • Creu diwylliant lle gallwn siarad yn agored am iechyd a lles 听

    Hyrwyddwyr wedi eu penodi
    1.2听
    2.2听
    2.4听
    3.1听

    Mae pennaeth pob ysgol a鈥檙 gwasanaethau proffesiynol yn cael hyfforddiant iechyd a lles听
    1.1听
    1.3听
    3.3听

    Cwestiwn yn ymwneud ag iechyd a lles ar ffurf adolygiad datblygu perfformiad i ysgogi dealltwriaeth gyffredin o iechyd a lles ac anghenion unigol 听
    1.3听
    2.1听
    2.5听
    3.4听

    Ychwanegu cwestiwn i鈥檙 arolwg staff am y diwylliant o siarad yn agored; cymharu 芒'r hyn sy'n cyfateb yn strategaeth iechyd meddwl y myfyrwyr
    1.4听

    Gwirio鈥檙 arolwg staff am gwestiynau 听

    Dangosydd perfformiad allweddol gr诺p-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo鈥檔 darparu bwyd iach

    Ymrwymo i gefnogi ein staff a myfyrwyr i gynnal ffordd iach o fyw gan ganolbwyntio鈥檔 gadarn ar atal a lleihau afiechyd

    Cynyddu ymwybyddiaeth a welir gan y prysurdeb ar y wefan;
    Marchnata Cysylltiadau Cwsmeriaid (cyfraddau agor negeseuon e-bost, clicio trwodd), presenoldeb mewn digwyddiadau mewnol

    2.4听听

    Tariff ar y model dyrannu llwyth gwaith
    3.1听
    3.4听

    Ymgysylltu 芒 gweithgareddau鈥檙 brifysgol a'r gymuned - mesur trwy gofnodi鈥檙 nod barcud
    2.5听
    3.1听
    3.2听

    Datblygu ymyriadau yn seiliedig ar anghenion i gefnogi iechyd a lles
    2.3听
    3.1听
    3.2听
    4.1听

    听听

    Dangosydd perfformiad allweddol gr诺p-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo鈥檔 darparu bwyd iach

    Ysgogi newid cymdeithasol trwy brofi a lledaenu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil er budd ein cymuned fyd-eang ehangach.

    Defnyddio data REF 2021 i ddatblygu cysylltiadau allanol a mewnol ar gyfer lledaenu ymarfer da
    2.4听
    4.1听

    Manteisio ar ganlyniadau CALIN er budd staff, myfyrwyr a busnes
    2.3听
    3.1听
    3.2听
    4.1听

    Effeithiolrwydd gwerthuso 听

    听听

    听听

    Dangosydd perfformiad allweddol gr诺p-benodol i adlewyrchu agweddau unigryw ar ddarparu gwasanaeth e.e. y gwasanaeth arlwyo鈥檔 darparu bwyd iach

    Monitro cyffredinol o iechyd a lles sefydliadol

    Iechyd Meddwl:
    WEMBS

    Iechyd Corfforol:
    [nodi graddfa]

    Materion Iechyd Cyfoes::
    [graddfa]

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?